OpenDoc Mill

System creu dogfennau o ddata ar gyfer datblygwyr meddalwedd yw OpenDoc Mill. Mae hi fel datblygiad o'r offer "Cyfuno Post" o fewn proseswyr geiriau.

Dull Gweithio

Nodweddion

Mae'n hawdd dylunio templed. Defnyddiwch OpenOffice.org fel "dylunydd graffegol". Does dim angen bod yn rhaglennydd i ddylunio neu diwygio templed. Mae'n hawdd dylunio templedi cymhleth a deniadol, heb yr holl arbenigedd sydd ei angen er mwyn rhaglennu'n effeithiol mewn XSLT a XSL-FO.

Mae modd creu dogfennau cymhleth. Mae pob Pennawd 1 yn y templed yn dechrau adran newydd. Ailadroddir adrannau yn ôl yr angen yn y ddogfen allbwn (e.e. i greu tudalen "manyleb" ar gyfer pob un o 100 cydran). Mae modd creu tablau a chynnwys siartiau a delweddau eraill o ffeiliau allanol.

Creu dogfennau'n gyflym. Mae dogfennau yn cael eu ffurfio trwy drin data mewn ffeiliau, nid trwy llwytho'r ffeiliau mewn i brosesydd geiriau. Mae hynny yn bosibl oherwydd mae XML wedi'i zipio yw ffeiliau OpenDocument. Dim ond unwaith mae'r templed yn cael ei lwytho; yna trwy zipio dilyniant o destunau mae creu'r ffeiliau allbwn. Gall hynny bod yn ganoedd o weithio'n gynt na dosrannu XML neu trin dogfen mewn prosesydd geiriau o raglen arall.

Aeddfedrwydd. Mae OpenDoc Mill a'i ragflaenydd yn cael ei defnyddio mewn nifer o safleoedd ers sawl blwyddyn. Mae'n cael ei ddefnyddio yn Land Rover i gynhyrchu adroddiadau peiriannu cymhleth o sawl cant tudalen, gan gynnwys delweddau siartiau, sy'n cymryd llai nag eiliad ar galedwedd PC cyffredin.

Annibyniaeth blatfform. Mae OpenDoc Mill wedi'i ysgrifennu mewn Python, ac mae modd ei ddefnyddio fel proses ar wahân er mwyn integreiddio â systemau sydd wedi eu hysgrifennu mewn unrhyw iaith.

Trwydded

Mae'r rhaglen hon yn feddalwedd rhydd; gallwch ei hailddosbarthu a/neu ei haddasu dan delerau Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol Affero GNU fel y'i cyhoeddwyd gan y Free Software Foundation; naill ai fersiwn 3 y Drwydded, neu (yn ôl eich dewis) unrhyw fersiwn diweddarach.

Mae’r rhaglen hon yn cael ei dosbarthu yn y gobaith y bydd yn ddefnyddiol, ond HEB UNRHYW WARANT; heb hyd yn oed y warant oblygedig o FARSIANDWYAETH neu FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG. Gweler Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol Affero GNU am ragor o fanylion.

Llwytho i lawr

Cod ffynhonnell, ag enghreifftiau defnyddio

Wy Python (.egg)