Literatim — Bysellfwrdd Android

Oes gen ti ffôn neu dabled Android? Wyt ti'n siarad Cymraeg neu wyt ti'n dysgu iaith arall? Yna mae Literatim i ti. Mae'n fysellfwrdd tecstio darogan â geiriadur dwyieithog tu fewn iddo, sydd yno pan wyt ti'n tecstio, ebostio neu defnyddio dy hoff apiau i chwilio am eiriau i ti.

Tecstio darogan

Fel byddet ti'n ddisgwyl, mae Literatim yn awgrymu geiriau wrth i ti teipio, gyda'r gair mwyaf tebygol yn dod yn gyntaf. Gallet ti ddewis awgrym drwy roi dy fys arno, ac mae'n cael ei "deipio" fel pe taset ti wedi teipio'r gair neu'r ymadrodd cyfan.

Awgrymiadau dwyieithog

Ond mae Literatim yn ddwyieithog hefyd. Felly mae modd teipio mewn un iaith a gweld awgrymiadau yn y llall. Mae hyn yn wych i ddysgwyr: gallet ti ffeindio gair wyt ti wedi'i anghofio yn yr amser mae'n cymryd i'w deipio yn dy iaith gyntaf. A hyd yn oed os wyt ti'n gwbl ddwyieithog, efallai na fyddi di'n cofio pob gair o'r ddwy iaith yn syth bob amser, felly mae hyn yn help i ti hefyd!

Geiriadur wrth law

Dal ddim yn siŵr pa air sy'n gywir? Weithiau mae yna sawl posibilrwydd gan ddibynnu ar y cyd-destun. Dim problem, dal dy fys ar yr awgrymiadau ac bydd rhestr o gofnodion geiriadurol llawn yn ymddangos. Pwysa un ohonyn nhw er mwyn gludo'r gair mewn i'r testun.

Os wyt ti angen rhagor o help gyda gair, gall Literatim agor ap geiriaduron llawn neu wefan os wyt ti'n pwyso un ddolen hawdd.

Ar gael ymhob man!

Bysellfwrdd Android yw Literatim, felly mae ar gael yn hwylus wrth ebostio, wrth tecstio, ac wrth ddefnyddio unrhyw app Android i ysgrifennu testun. Yn syml, mae yno ac yn gweithio yn awtomatig, bob tro wyt ti'n teipio rhywbeth. Mae mor hwylus achos ei fod yno drwy'r amser — does dim gwastraffu amser yn chwilio geiriadur. Mae'n un o'r syniadau bach syml fydd yn arbed amser roeddet ti'n ei wastraffu heb sylwi.

Os wyt ti'n ddysgwr, gallet ti arbed amser bob tro rwyt ti angen gair. Gall hyn ddigwydd cannoedd o weithiau bob dydd, felly mae Literatim yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng dod yn rhugl a mynd yn rhwystredig. Dysgwr yw datblygydd gwreiddiol yr ap, ac mae wedi'i gynllunio i ateb yr angen parhaus am eirfa. Felly paid a stryglo ymlaen hebddo!

Sut i osod yr ap

Llwytha'r ap lawr o Google Play drwy ddefnyddio'r ddolen hon: Literatim ar Google Play. Neu chwilia am Literatim yn Google Play o dy ddyfais Android.

Yna, rhaid troi'r ap ymlaen a'i ddewis. Mae'r sgrinluniau isod yn dangos sut i'w wneud:

1. Pwyso eicon Literatim

Pwyso eicon Literatim

2. Pwyso ‘Ticio “Cymraeg”’

Pwyso Ticio “Cymraeg”

3. Rhoi tic wrth ymyl “Cymraeg”

Rhoi tic wrth ymyl “Cymraeg”

4. Clicio OK

Clicio OK

5. Mynd yn ôl

Mynd yn ôl

6. Clicio ‘Dewis “Cymraeg”’

Clicio Dewis “Cymraeg”

7. Dewis “Cymraeg”

Dewis “Cymraeg”

8. Mae Literatim ar waith!

Mae Literatim ar waith

Gallai'r sgriniau edrych yn wahanol ar rai ffonau neu ddyfeisiau.

Preifatrwydd

Ni chesglir unrhyw fath o wybodaeth amdan defnyddwyr trwy Literatim.

Ieithoedd sydd ar gael

Gelli di ddewis dy ieithoedd pan fydd yr ap yn cychwyn am y tro cyntaf, neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny trwy'r pwyso'r botwm dewisiadau yn y bysellfwrdd.

Ieithoedd Ffynhonnell Eiriadurol
Cymraeg / Saesneg Geiriadur Cysgair © Prifysgol Bangor, gyda chaniatâd caredig (+ychwanegiadau iaith anffurfiol)
Tsieineeg / Saesneg Dod yn fuan
Ieithoedd eraill Holwch os oes gen ti ddiddordeb!

Gwadiad

Yn ein profiad, mae'r ap yn rhedeg ar y mwyafrif o ddyfeisiau Android o fersiwn 2.2 i fyny, ond ni allem ni wneud unrhyw warant ar gyfer eich dyfeis penodol chi. MAE'R HOLL DDEUNYDD AR Y SAFLE YMA YN CAEL EI DDARPARU HEB UNRHYW WARANT; heb hyd yn oed y warant oblygedig o FARSIANDWYAETH neu FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG.